ADC/DB  
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Sector Gwaith Ieuenctid
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 
 

Mae gwaith ieuenctid byd-eang yn annog ieuenctid i feddwl yn feirniadol am y byd o’n cwmpas, yn hytrach na derbyn y negeseuon a drosglwyddir i ni gan y cyfryngau neu gan wleidyddion er enghraifft. Mae gwaith ieuenctid byd-eang yn ymateb i’r ffaith bod ein bywydau bob dydd yn gysylltiedig â bywydau pobl eraill ledled y byd, ac mae’n broses o gydnabod ein bod yn aelodau o gymdeithas
fyd-eang, ac o ganlyniad bod gennym hawliau a chyfrifoldebau byd-eang.

Mae’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn ceisio defnyddio arferion da a chydweithredu er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang o fewn y sector hwn.

Ionawr 2009 - Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Fersiwn wedi ei diweddaru yw’r ddogfen hon o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang - Strategaeth Weithredu. Roedd y ddogfen wreiddiol yn deillio o ganlyniadau ymgynghoriad diweddar ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ac fe’i bwriedir i amlygu camau fydd yn
gyrru’r agenda yn ei blaen dros y cyfnod 3 o dair blynedd 2006-2009.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Mawrth 2008 -‘Beth all un person ei wneud?’

Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) a Gwaith Ieuenctid Canllaw Byr ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 

Awst 2008 - Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ym maes dysgu oedolion yn y gymuned a gwaith ieuenctid yng Nghymru

Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu datganiad sefyllfa i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd ym maes dysgu oedolion yn y gymuned a phobl ifanc mewn sefydliadau gwaith ieuenctid, yn gysylltiedig â datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, ac i argymell ffyrdd o ddatblygu’r gwaith hwn.

Lawrlwythwch y fersiwn pdf

 
arrow Lawrlwythwch gopi o ‘A Common Understanding for the Youth Work Sector’ (Nov 2008)
arrow Lawrlwythwch gopi o ‘A Strategy for Action – Updates’ (Jan 2008)
arrow Cliciwch yma i weld y datblygiadau yn y sector gwaith ieuenctid
 
arrow Lawrlwythwch gopi o’r cynllun gweithredu i gael rhagor o wybodaeth am yr holl gamau gweithredu allweddol yn y sector ysgolion (dim ond ar gael yn saesneg)

 

 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk