|
Caiff Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy
a Dinasyddiaeth Fyd-eang ei darparu drwy weithgareddau yn
yr ystafell ddosbarth, trwy fentrau ar gyfer yr ysgol gyfan
a thrwy’r partneriaethau y mae’r ysgol yn eu meithrin
er mwyn gwella’r addysg gyfannol y mae’n ei darparu.
Mae’r gwaith sydd ar y gweill ar
hyn o bryd yn ceisio uno’r ddealltwriaeth gyffredin
am Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
i ysgolion gyda Chwricwlwm 2008. Cynhelir hyfforddiant a bydd
yr adnoddau’n cael eu datblygu wrth gydweithio ochr
yn ochr â ‘galluogi cefnogaeth effeithiol’
(www.cyfanfyd.org.uk)
ac o fewn rhwydweithiau a strwythurau newydd.
|