|
Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio
Modiwlau lefel meistr
Mae nifer o brifysgolion yn cynnig modiwlau neu gyrsiau cyfan sy’n berthnasol ar gyfer ADC&DF. Nid yw’r rhestr hon yn un cynhwysfawr.
Newydd! Addysg Fyd-eang
Modiwlau 10 credyd, dwyieithog, lefel Meistr: Rhagarweiniad i Addysg Fyd-eang, Strategaethau Addysgu a Dysgu, Y Byd Cyd-ddibynnol. Bydd tri mwy i ddilyn ym 2006. Dechreuwch ar unrhyw bryd ac astudio ar eich cyflymder eich hun. Cyfrwch gredydau at yr M.A. rhan-amser.
Cysylltwch â Sheila Bennell s.bennell@bangor.ac.uk
Newydd! Prifysgol Cymru, Casnewydd
MA Education for Sustainable Development and Global Citizenship.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn cynnig MSc mewn Addysg Amgylcheddol
Mae Ysgol Addysg Athrofa Abertawe yn cynnig modiwl MA mewn Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Prifysgol South Bank Llundain Cwrs Byr MSc/PgDip.
Rhaglen Addysg ar gyfer Cynaladwyedd Llawn-amser: blwyddyn; Dysgu o bellter/Rhan-amser: 4 blynedd; 1 semester (Dysgu o Bellter - cwrs byr)
Partneriaeth Ysgolion Byd-eang y Cyngor Prydeinig /DFID
Bydd gwybodaeth am amrywiaeth o gyrsiau ac achrediadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gael yn www.cea.co.uk/CEF
Hunan-astudio
Yn ogystal â’r adnoddau a restrir yn yr adran Darllen Cefndir, gallwn argymell gwefan sy’n eich galluogi i astudio ADC&DF yn eich amser eich hun. Mae hon hefyd yn cynnwys deunyddiau ar gyfer sesiynau myfyrwyr.
Mae ‘Teaching and Learning for a Sustainable Future’ http://www.unesco.org/education/tlsf/ yn rhaglen datblygiad proffesiynol amlgyfrwng i addysgwyr a gyhoeddwyd gan y rhaglen UNESCO ar addysgu am ddyfodol cynaliadwy. Mae’n cynnwys 100 awr (wedi’i rhannu’n 25 modiwl) o ddatblygiad proffesiynol. Mae ei gwreiddiau mewn gweledigaeth newydd o addysg sy’n ein helpu i ddeall y byd yr ydym yn byw ynddo yn well, gan ymdrin â chymhlethdod a chydgysylltiad problemau megis tlodi, defnydd gwastraffus, dirywiad amgylcheddol, poblogaeth, iechyd, gwrthdaro a hawliau dynol sy’n bygwth ein dyfodol.
|