ADC/DB
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Strategaethau addysgu a dysgu ADC&DF
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 

Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio

 

Egwyddorion Addysg a Dysgu
Cysylltiadau defnyddiol
Cyflwyniadau PowerPoint
Gweithgareddau Enghreifftiol
Astudiaethau Achos

EGWYDDORION ADDYSGU A DYSGU ar gyfer ADC&DF 

Egwyddorion
Model Egwyddorion
Addysg drwy Brofiad
Gwefannau Addysg drwy Brofiad
Sgiliau Meddwl (cyflwyniad PowerPoint)

Egwyddorion

Mae addysgeg ADC&DF wedi’i seilio ar sgiliau yn hytrach na chynnwys, mae’n ymwneud â “darparu profiadau i allu gwneud gwahaniaeth drwy weithredu, datblygu sgiliau holi, cymryd rhan ac adfyfyrio” (Action Aid 2003).

Mae nifer o egwyddorion yn graidd i addysgu a dysgu ADC&DF, ac ar ei gyfer. Y mae’n cynnig profiadau, yn gyfannol, yn gyfranogol ac yn adfyfyriol. Mae'n cynnwys datblygu sgiliau holi/meddwl, ac mae'n ymwneud ag agweddau a gwerthoedd addysg .

Mae'r egwyddorion yn graidd i'r nifer o weithgareddau ac adnoddau ar gyfer addysgu a dysgu ADC&DF sydd ar gael i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan.

Model Egwyddorion Addysgu a Dysgu


Cynnig profiadau
Dysgu drwy wneud, a chymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu drwy ymwneud â’r profiad ac adfyfyrio arno.
Cyfannol
Yn aml, defnyddir yr holl synhwyrau e.e. gwybyddol (gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau holi), ac affeithiol (personol, cymdeithasol ac emosiynol).
Adfyfyriol
Returning to experience; attending to feelings; and evaluating experience” (Jeffs and Smith 1999, Informal Education, Derbyshire: Education Now). Daw’r profiad felly yn gyfle dysgu lle hyrwyddir a throsglwyddir sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth, gwerthoedd ac agweddau newydd.
Agweddau a Gwerthoedd
Mewn ADC&DF, mae agweddau a gwerthoedd yn ganolog. Mae agweddau pobl at y wybodaeth maent wedi ei chael a’r materion maent yn eu trafod yn aml yn pennu’r ffordd maent yn ymddwyn; mae ein hagweddau yn tarddu o werthoedd personol.
Cyfranogol
Mae pobl yn cael eu “hannog i gymryd rhan yn weithredol, ac yn cael eu hannog i rannu cyfrifoldeb a dod yn bartneriaid cyfartal, yn sylfaenol i’r broses ddysgu a’r fframweithiau gwneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar eu bywydau a’u hamgylcheddau eu hunain ac eraill” (Asiantaeth Ieuenctid Cymru 2002). Mae’n helpu i “baratoi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, yn lleol ac yn fyd-eang, sy’n hyrwyddo byd mwy cyfiawn a chynaliadwy” (ACCAC, 2002).
Datblygu sgiliau holi/meddwl
Defnyddir 'sgiliau meddwl' a thermau cysylltiedig i ddangos dull addysgu sy’n pwysleisio’r broses o feddwl a dysgu y gellir ei defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Amrywiaeth o sgiliau meddwl yw: prosesu gwybodaeth, rhesymu, holi, meddwl yn greadigol a gwerthuso (DfES 2004, www.standards.dfes.gov.uk/
thinkingskills/
).

Mae rhai enghreifftiau o agweddau a gwerthoedd a ymgorfforir yn y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol fel a ganlyn:

• hunan-barch
• parch ac ystyriaeth at eraill
• cydraddoldeb cyfle a derbyn eraill waeth beth fo’u hil, crefydd, gender, rhywioldeb, oedran neu anabledd
• ymboeni ynghylch tegwch a chyfiawnder
• annibyniaeth meddwl
• cyfrifoldeb
• parodrwydd i gydweithredu
• sensitifrwydd at yr amgylchedd
• chwilio am y gwir.

(ACCAC 2000, www.accac.org.uk/uploads/documents/695.pdf)

Addysg drwy Brofiad
Dull sy’n tynnu llawer o’r egwyddorion creiddiol ynghyd ar gyfer addysgu a dysgu ADC&DF, ac ar ei gyfer, yw dull dysgu drwy brofiad.

Beth yw Addysg drwy Brofiad?
Mae diffiniad o Addysg drwy Brofiad gan yr Association of Experiential Education) fel a ganlyn
www.aee2.org/customer/pages.php?pageid=47

Mae Addysg drwy Brofiad yn athroniaeth ac yn fethodoleg y gall addysgwyr ymwneud yn bwrpasol â dysgwyr mewn profiad uniongyrchol ac adfyfyrio â ffocws pendant er mwyn cynyddu gwybodaeth, datblygu sgiliau, ac egluro gwerthoedd.

Dyma egwyddorion (1) ymarfer Addysg drwy Brofiad:

  • Mae dysgu drwy brofiad yn digwydd pan gefnogir profiadau a ddewiswyd yn ofalus gan adfyfyrio, dadansoddi beirniadol, a synthesis.
  • Mae profiadau wedi cael eu strwythuro i’w gwneud yn ofynnol i’r dysgwr (2) gymryd y cam cyntaf, gwneud penderfyniadau, a bod yn atebol am y canlyniadau.
  • Drwy gydol y broses dysgu drwy brofiad, mae’r dysgwr yn ymwneud yn weithredol â gofyn cwestiynau, ymchwilio, arbrofi, bod yn chwilfrydig, datrys problemau, cymryd cyfrifoldeb, bod yn greadigol, a llunio ystyr.
  • Mae dysgwyr yn ymwneud yn ddeallusol, yn emosiynol, yn gymdeithasol, yn deimladwy, ac/neu yn gorfforol. Mae’r ymwneud hwn yn cynhyrchu canfyddiad fod y dasg ddysgu yn un go iawn.
  • Mae canlyniadau’r dysgu yn bersonol ac yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer profiad a dysgu yn y dyfodol.
  • Caiff perthnasau eu datblygu a’u meithrin: y dysgwr gyda’i hunan, y dysgwr gydag eraill, a’r dysgwr gyda’r byd cyfan.
  • Efallai y bydd yr addysgwr (3) a’r dysgwr yn profi llwyddiant, meddiant, antur, cymryd risg, ac ansicrwydd, gan na ellir rhagfynegi deilliannau’r profiad yn union.
  • Caiff cyfleoedd eu meithrin i ddysgwyr ac addysgwyr archwilio eu gwerthoedd eu hunain.
  • Mae prif swyddogaethau’r addysgwr yn cynnwys gosod profiadau addas, cyflwyno problemau, gosod ffiniau, cefnogi dysgwyr, sicrhau diogelwch corfforol ac emosiynol, a hwyluso’r broses ddysgu.
  • Mae’r addysgwr yn adnabod ac yn annog cyfleoedd digymell ar gyfer dysgu.
  • Mae addysgwyr yn ymdrechu i fod yn ymwybodol o’u rhagfarnau, eu barn, a’u rhagdybiaethau, a sut maent yn dylanwadu ar y dysgwr
  • Mae cynllunio’r profiad dysgu yn cynnwys y posibilrwydd i ddysgu o ganlyniadau naturiol, camgymeriadau a llwyddiannau.

(1) Gall y flaenoriaeth neu’r drefn y mae bob gweithiwr proffesiynol yn gosod yr egwyddorion hyn amrywio.

(2) Nid oes un term sy’n cwmpasu holl swyddogaethau’r gweithiwr proffesiynol mewn addysg drwy brofiad. Felly, mae’r term "dysgwr", yn cynnwys myfyriwr, client, hyfforddai, cyfranogwr, etc.

(3) Nid oes un term sy’n cwmpasu holl swyddogaethau’r gweithiwr proffesiynol mewn addysg drwy brofiad. Felly, mae’r term "addysgwr" yn cynnwys therapydd, hyrwyddwr, thro/athrawes, hyfforddwr, ymarferwr, cynghorwr, etc."

Modelau Dysgu Drwy Brofiad  

Ceir nifer o fodelau o ddysgu drwy brofiad. Yr un mwyaf cyffredin yw model Kolb a Lewin
(David Kolb, 1984. Experiential Learning, Englewood Cliffs: Prentice Hall).

Dysgu drwy Brofiad (ar ôl Lewin a Kolb yn Jeffs & Smith, 1999.
Informal Education, Derbyshire: Education Now).

[1] Cymerir rhan mewn profiad, neu nodir problem i’w datrys.

[2] Adfyfyrir ar y gweithgaredd profiad / datrys problem; beth a ddysgir o’r profiad hwn.

[3] Mae’r dysgu a geir o’r profiad yn dod yn rhan o’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth, yn helpu i ffurfio neu gwestiynu ein gwerthoedd a’n hagweddau a/neu ddatblygiad ein sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol.

[4] Profir lefelau newydd o brofiad mewn sefyllfaoedd eraill, mae’r broses yn cychwyn eto wedyn, ac mae’r cylch dysgu felly, yn broses ddysgu barhaus.

Gellir defnyddio model wedi’i symleiddio i egluro fod y broses yn addasiad o gylch dysgu drwy brofiad Kolb.

Gwefannau Addysg drwy Brofiad 

Institute for Outdoor Learning UK
www.outdoor-learning.org/

Experiential Learning on the Web
www.reviewing.co.uk/research/experiential.learning.htm

Infed: The Informal Education Homepage UK
www.infed.org/biblio/b-explrn.htm

European Institute for Outdoor Adventure Education and Experiential Learning
www.eoe-network.org/home.htm

Learning from Experience - David Kolb's site
www.learningfrom experience.com

Association for Experiential Education - USA
www.aee.org/

Community Development Resource Association (CDRA) - South Africa
www.cdra.org.za/

Experiential Education and Adventure-Based Learning - Germany
www.erlebnispaedagogik.de

 

 
 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk