ADC/DB
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Beth mae sefydliadau HAGA eraill yn ei wneud?
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 

Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio

 

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?
Gwefannau allweddol ar ‘pwy sy’n gwneud beth’ mewn HAGA yn y DU
Llyfrau, papurau ac erthyglau ar ADC&DF mewn
HAGA

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Mae wyth sefydliad yng Nghymru sy’n cynnig
cyrsiau HAGA


Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI)

Mae NEWI wedi cwblhau archwiliad cyrsiau ar gyfer ADCDF. Codir materion yn ymwneud ag ADCDF mewn Daearyddiaeth, Astudiaethau Sylfaen, Astudiaethau Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar. 

Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Mae Aberystwyth wedi cynnal dau ddiwrnod Dinasyddiaeth Fyd-Eang eleni, un i fyfyrwyr BEd, y llall i fyfyrwyr TAR uwchradd. Cyfrannodd sefydliadau megis Oxfam, Cewc-Cymru, Dolen Cymru a’r Ganolfan Addysg Byd ar y diwrnodau hyn. 

Prifysgol Cymru, Bangor

Yn ddiweddar, mae’r Ysgol Addysg a’r Ganolfan Addysg Byd wedi cwblhau project tair blynedd, a gyllidir gan DFID, Oxfam a Chymorth Cristnogol, i sefydlu ADCDF mewn cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Mae adroddiadau interim ar gael yn www.bangor.ac.uk/addysgbyd/itet ac mae’r adroddiad terfynol ar gael fel copi caled o’r Ganolfan Addysg Byd. 

Prifysgol Cymru, Casnewydd

Mae Casnewydd yn cynnwys elfennau o ADCDF yn ei chyrsiau hyfforddiant athrawon ac mae hefyd yn rhedeg gradd BSc/BA mewn Dinasyddiaeth Fyd-Eang. 

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

 

Coleg y Drindod, Caerfyrddin

Mae Coleg y Drindod yn darparu ar gyfer ADCDF yn ei chyrsiau BA(Ed) a TAR drwy’r cwrs Daearyddiaeth proffesiynol a’r modiwl Ehangu Gorwelion (Widening Horizons) (blwyddyn 2) a thrwy’r Cwrs Daearyddiaeth Proffesiynol, y Cwrs Daearyddiaeth Prif Faes a’r Cwrs Proffesiynol a Phrif Faes (Blwyddyn 3). 

Prifysgol Cymru, Abertawe

TAR Uwchradd: Cafodd Datblygiad Cynaliadwy ei gyflwyno gyda dinasyddiaeth ar y rhaglen Astudiaethau Proffesiynol a chafodd ei gynnwys fel rhan o gyflwyniad darlith ac yna mewn seminar trafod. Roedd yn ofynnol i hyfforddeion wneud ychydig o ddarllen (Darllen hanfodol) fel paratoad ar gyfer y sesiwn. Yn y rhaglen Astudiaethau Proffesiynol a gynhelir fel paralel mewn ysgolion, gyda sesiynau a drefnir gan yr Uwch Fentoriaid mewn ysgolion, mae hyfforddeion yn edrych ar y mater yng nghyd-destun yr ysgol. 

Athrofa Abertawe

Cyflwynir materion byd-eang drwy Astudiaethau Addysgol a Phroffesiynol ymhob blwyddyn o’r cwrs a thrwy Daearyddiaeth, Saesneg, Astudiaethau’r Cyfryngau a phynciau arbenigol Gwyddoniaeth. Mae gan y Sefydliad gyswllt hirsefydlog gyda’r ‘World Studies Trust’ a’i ‘Phroject Athrawon Byd-eang’ (Global Teacher Project). Gwnaed gwaith arloesol gyda mentoriaid a myfyrwyr. 

 
 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk