ADC/DB
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Integreiddio ADC&DF mewn cyrsiau HAGA
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 

Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio

 

Mae ADC&DF yn berthnasol i bob pwnc a bob agwedd o gyrsiau HAGA. Mae’r adran hon yn rhoi rhai enghreifftiau o’r hyn mae’n ei olygu i ddod â ADC&DF i mewn i HAGA.

Mae’n darparu set o ddangosyddion arfer da, enghreifftiau o wybodaeth, gwerthoedd ac agweddau, offeryn archwilio cyrsiau/modiwlau i asesu’r hyn sydd eisoes yn eich cyrsiau, a rhai enghreifftiau o archwiliadau cyrsiau cynhwysfawr.

Dangosyddion arfer da
Argymhellion ar gyfer sefydlu ADC&DF mewn HAGA
Offeryn archwilio cyrsiau
Teclyn archwilio cyrsiau/modiwlau
Enghreifftiau o archwiliadau cyrsiau
Ethos sefydliadol
Darlithoedd rhagarweiniol enghreifftiol 1, 2
Methodoleg Cyflwyniad a gweithgareddau enghreifftiol
Aseiniad enghreifftiol – Gweithgaredd ffotograff

Dangosyddion arfer da
Yn 2002, fe wnaeth grŵp o addysgwyr HAGA, aelodau’r Gymdeithas Addysg Ddatblygiad (DEA) a budd-ddeiliaid allweddol gymryd rhan mewn fforwm trafod ar-lein. O hyn, datblygwyd saith o ddangosyddion Arfer Da ar gyfer dimensiwn byd-eang mewn Addysg Gychwynnol Athrawon.
(Development Education Association, 2003. - www.dea.org.uk/higher/projects_ite.html)

Addysg ar gyfer byd cyd-ddibynnol
Dylai sefydliadau AGA archwilio sialensiau a chyfleoedd addysgu athrawon ar gyfer byd wedi’i nodweddu gan globaleiddio a realiti cymdeithas fyd-eang.

Datblygu llythrennedd gwleidyddol
Dylai sefydliadau AGA geisio datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o brosesau gwleidyddol a gwneud penderfyniadau ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Gwerthoedd ac agweddau
Dylai sefydliadau AGA annog myfyrwyr i archwilio’u gwerthoedd a’u hagweddau eu hunain ac eraill.

Addysg a dysgu
Dylai sefydliadau AGA sicrhau fod myfyrwyr yn gwybod sut i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso cynlluniau gwaith gweithredol a chyfranogol sy’n helpu disgyblion i gael safbwynt byd-eang.

Gwybodaeth bwnc
Dylai sefydliadau AGA sicrhau fod gan fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau i gyflwyno’r dimensiwn byd-eang drwy eu pwnc/pynciau arbenigol.

Ymchwil ac ysgolheictod
Dylai sefydliadau AGA hyrwyddo ymchwil gweithredol ac ymchwiliadau eraill i theori ac ymarfer sy’n ymwneud â’r dimensiwn byd-eang mewn addysgu a dysgu.

Polisi ysgolion
Dylai sefydliadau AGA annog a chefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn trafodaeth am y dimensiwn byd-eang a pholisi addysgol yn yr ysgolion maent yn gweithio ynddynt.

Enghreifftiau o wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac agweddau

Teclyn archwilio cyrsiau/modiwlau
Mae teclyn archwilio cyrsiau, wedi’i seilio ar y Dangosyddion Arfer Da, wedi cael ei ddatblygu yn yr Ysgol Addysg, Prifysgol Cymru, Bangor. Gellir ei addasu ar gyfer archwilio modiwlau unigol neu gyrsiau cyfan.

Enghreifftiau o archwiliadau cyrsiau
Prifysgol Cymru, Bangor, 2003-04:

Archwiliadau cyrsiau BEd
Archwiliad TAR Cynradd
Archwiliad TAR Uwchradd
Archwiliad BSc Dylunio a Thechnoleg

Ethos sefydliadol
It is also important to bring sustainable development and global issues into the ethos of the institution. Examples of how this has been implemented in ITET institutions will follow shortly.

 

 
 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk