ADC/DB
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Diffiniadau
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 

Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio

 

Mae nifer o ddiffiniadau o ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, a llawer o orgyffwrdd hefyd yn niffiniad y ddau derm. Rhoddir rhai diffiniadau isod, ynghyd â chyfeiriadau at ragor o wybodaeth.

Datblygu Cynaliadwy
Dinasyddiaeth Fyd-eang
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Datblygiad cynaliadwy
Daw un o’r diffiniadau cynharaf o Gomisiwn Brundtland (1987).

Datblygiad sy’n cyflawni anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i gyflawni eu hanghenion eu hunain.'

Awgrymodd Comisiwn Brundtland hefyd fod yn rhaid integreiddio ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i ymdrin â materion tlodi, cyfiawnder, ansawdd bywyd a diogelwch amgylcheddol byd-eang. Yn yr 'Earth Summit' yn Rio yn 1992, mabwysiadwyd yr egwyddorion hyn ac fe’u hymgorfforwyd i 'Agenda 21', set gynhwysfawr o egwyddorion i gynorthwyo llywodraethau a sefydliadau eraill i weithredu polisïau a rhaglenni datblygiad cynaliadwy yn yr unfed ganrif ar hugain. Cytunwyd ar Agenda 21 gan dros 170 o wledydd, yn cynnwys y Deyrnas Unedig. Roedd ar lawer o’r egwyddorion angen gweithredu lleol. Mae llawer o awdurdodau lleol, yn y DU ac o amgylch y byd, wedi creu cynlluniau gweithredu lleol ar gyfer datblygiad cynaliadwy -- 'Local Agenda 21'.

Daw diffiniad arall a ddefnyddir yn gyffredin gan y World Conservation Union / United Nations Environment Programme / World Wide Fund for Nature, 1991

“Gwella ansawdd bywyd wrth fyw o fewn galluoedd cario’r ddaear”

Cewch drafodaeth bellach ar ystyr Datblygiad cynaliadwy ar y gwefannau canlynol

Tudalennau datblygiad cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru: www.wales.gov.uk/themessustainabledev/index.htm

Yn unigryw ymhlith Cenhedloedd yr UE, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyletswydd gyfreithiol orfodol i fynd ar ôl datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wna. Mae hyn wedi’i adeiladu i mewn i’w gyfansoddiad drwy adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru. www.hmso.gov.uk

Comisiwn Datblygiad Cynaliadwy
www.sd-commission.gov.uk

Safle Addysg ar gyfer Datblygu cynaliadwy’r QCA
www.nc.uk.net/esd/gq1.htm

Dinasyddiaeth Fyd-eang
Mae dinasyddiaeth yn ymwneud â hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’ch hunan, eraill a’r gymuned ehangach. Felly mae’n canolbwyntio ar ddeall cysylltiadau cymunedol, datblygu llythrennedd gwleidyddol a chwestiynau am gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.   Mae’n ymwneud â’r cysyllteddau a’r rhyng-gysylltiadau mewn grwpiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a threfniadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y grwpiau hyn. Fel y cyfryw, mae’n darparu sail hanfodol ar gyfer dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas yn ei holl agweddau amlweddog, a’n lle ynddo. Fodd bynnag, nid yw’n ymwneud â dealltwriaeth yn unig, ond yn hytrach, mae’n ceisio defnyddio dealltwriaeth o’r fath i hyrwyddo ymwneud gweithredol â materion cyfiawnder a chydraddoldeb yn y byd heddiw.  
Cewch ddiffiniad Oxfam o Ddinesydd Byd-eang yn
www.oxfam.org.uk/coolplanet/teachers/globciti/whatis.htm

 

 
 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk